Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideo gynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 3 Awst 2020

Amser: 10.00 - 10.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6434


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AS (Cadeirydd)

David Melding AS (yn lle Suzy Davies AS)

Carwyn Jones AS

Dai Lloyd AS

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Nia Moss (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Cafwyd ymddiheuriad gan Suzy Davies AS. Roedd David Melding AS yn dirprwyo ar ei rhan.

 

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)241 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020

Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef.

 

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL (5) 574 – Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at oblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(5)556 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(5)556 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(5)588 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI8>

<AI9>

3.5   SL(5)580 – Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

3.6   SL(5)582 – Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

3.7   SL(5)585 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI11>

<AI12>

3.8   SL(5)581 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

</AI12>

<AI13>

3.9   SL(5)579 –  Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Cymru) (Rhif 2) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI13>

<AI14>

3.10SL(5)540 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI14>

<AI15>

3.11SL(5)587 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI15>

<AI16>

3.12SL(5)586 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

</AI16>

<AI17>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI17>

<AI18>

4.1   SL(5)565 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

</AI18>

<AI19>

5       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI19>

<AI20>

5.1   WS-30C(5)164 – Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin a Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Dirymu) 2020

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI20>

<AI21>

5.2   WS-30C(5)165 – Rheoliadau Cerbydau Cludiant Ffyrdd Glanach (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am eglurhad pellach ar effaith y Rheoliadau.

 

</AI21>

<AI22>

6       Papurau i’w nodi:

</AI22>

<AI23>

6.1   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE)

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

</AI23>

<AI24>

6.2   Llythyr gan y Gweinidog Addysg: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Addysg.

 

</AI24>

<AI25>

6.3   Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

</AI25>

<AI26>

6.4   Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

</AI26>

<AI27>

6.5   Llythyr gan y Prif Weinidog: Data ar fynediad at gyfiawnder

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

</AI27>

<AI28>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

</AI28>

<AI29>

8       Ystyriaeth o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol, a thrafodwyd materion i'w cynnwys yn ei ymateb i Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 

</AI29>

<AI30>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod nesaf.

O dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd yr Aelodau i benodi Carwyn Jones AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 24 Awst 2020, yn amodol ar gael ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AS.

 

</AI30>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>